Carchar Pentonville
Mae llythyrau a ysgrifennwyd gan un o lofruddion enwoca’ gwledydd Prydain, wedi cael eu gwerthu am £11,000 mewn ocsiwn heddiw.
Fe ddaeth y Dr Harvey Hawley Crippen yn enwog am lofruddio ei wraig ac am dorri ei chorff marw yn ddarnau cyn claddu’r gweddillion dan lawr selar eu cartre’ yn 1910.
Fe gafodd ei arestio wrth iddo geisio dianc o’r Deyrnas Unedig gyda’i fistres, Ethel Le Neve. Roedd hi wedi gwisgo i fyny fel bachgen ar gyfer y siwrnai.
Fe gafodd Dr Crippen ei grogi yng ngharchar Pentonville yn Llundain ym mis Tachwedd 1910.