Mae lluoedd y llywodraeth wedi dod a gwarchae gwaedlyd gan wrthryfewyr Islamaidd i ben yn un o brif westai Somalia.

Mae 24 o bobol wedi’u lladd, yn cynnwys chwech o’r gwrthryfelwyr.

Fe aeth lluoedd arbennig y wladwriaeth i mewn i westy Maka Al-Mukarramah Hotel yn Mogadishu ychydig dros 12 awr wedi i ddynion arfog o’r grwp al-Shabab feddiannu’r lle.

“Mae’r ymgyrch drosodd erbyn hyn, ac mae’r tanio wedi peidio,” meddai llefarydd ar ran yr awdurdodau yn y wlad. “Ni sydd mewn rheolaeth o’r gwesty bellach.”

Yn ogystal a’r meirwon, mae llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans yn dweud fod 28 o bobol wedi’u hanafu yn ystod y gwarchae a’r ymladd fu wedyn.