Mae Loaded, un o’r cylchgronau wnaeth lansio’r diwydiant ‘Lads Mags’ yn y 1990au, yn dod i ben.

Cadarnhaodd y cyhoeddwyr heddiw mai rhifyn Ebrill, gafodd ei gyhoeddi ddoe, fydd y rhifyn olaf.

Mae gwerthiant y cylchgrawn, oedd ar un adeg yn gannoedd o filoedd, wedi syrthio wrth i ddarllenwyr ddefnyddio mwy ar y We, yn ôl y cyhoeddwyr.

“Mi fasen ni’n hoffi talu teyrnged i’n cwsmeriaid, staff ac yn enwedig ein cyfranwyr a’r tîm golygyddol,” meddai’r cyhoeddwyr Simian.