Edwina Hart
Mae Gweinidog Rheilffyrdd, Edwina Hart wedi nodi mewn datganiad heddiw mai’r flaenoriaeth yn y gogledd yw i drydaneiddio’r lein yr holl ffordd Gaergybi i Crewe, gydag ymrwymiadau hefyd gan Lywodraeth Cymru i wella gorsafoedd a sicrhau gwasanaethau rheolaidd yn y rhanbarth.

Cadarnhaodd Edwina Hart ei bod wedi derbyn cyngor ar y broses o wella’r isadeiledd er mwyn moderneiddio’r rheilffyrdd.

“Rwyf wedi cyfarfod â’r Tasglu Gweinidogol yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd 2013 i gael cyngor ar sut y gall y gogledd fanteisio ar y broses o foderneiddio’r rheilffyrdd, gwella cysylltiadau trafnidiaeth a sicrhau bod gwelliannau mwy effeithiol i’r isadeiledd a gwasanaethau trafnidiaeth yn y rhanbarth.”

Mae angen trydaneiddio’r rheilffordd o Gaergybi i Crewe, meddai, er mwyn osgoi colledion pellach i’r economi yn y gogledd.

“Byddai cynllun annibynnol ar gyfer Crewe i Gaer ac ar gyfer Caer i Warrington, fel arall, yn arwain at ddiffyg manteision sylweddol, a fyddai’n gorfodi teithwyr i newid yng Nghaer gan arwain at golledion economaidd o dros £260 miliwn i economi Cymru a dros £210 miliwn i economi Lloegr.”

Angen gwella yn Wrecsam hefyd

Mae’n cydnabod mai dim ond rhan o’i gweledigaeth ar gyfer moderneiddio’r rheilffyrdd yw trydaneiddio.

“Mae cyfyngiadau’r rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer yn golygu bod rhwystrau sylweddol i gyflawni’r cysylltiadau y dymunwn ar y rheilffyrdd ar gyfer Wrecsam. Rwyf wedi gofyn am gymorth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i gael Network Rail i gynnal gwaith datblygu, gyda’r bwriad o ddarparu rhagor o gapasiti ar y rhwydwaith rhwng Wrecsam a Chaer.”