Cafodd archif sain ei lansio’r wythnos hon sy’n rhoi atgofion 200 o fenywod mewn ffatrïoedd amrywiol rhwng 1945 a 1975 ar gof a chadw.

Mae’r prosiect ‘Lleisiau o Lawr y Ffatri’ yn ffrwyth ymchwil Archif Merched Cymru sy’n mynd ati i adrodd hanes merched ar hyd y canrifoedd a’r nod yw codi ymwybyddiaeth o hanes merched yng Nghymru, gan achub a diogelu ffynonellau hanes.

Dywedodd Carys Howells, cynrychiolydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, “fod y prosiect yn amlwg yn llwyddiant ysgubol, a’i fod wedi’i drefnu’n broffesiynol a thrwyadl. Roedd yn adrodd stori yr oedd gwir angen ei hadrodd, ei diogelu a’i rhannu.”

Wrth egluro’r cefndir hanesyddol, dywedodd yr Athro Deirdre Beddoe, Llywydd Anrhydeddus Archif Merched Cymru, “Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd yng Nghymru fyddin o fenywod wedi’u hyfforddi mewn gwaith ffatri, llawer ohonynt yn gwneud arfau rhyfel ac eraill yn llenwi’r bylchau a adawyd gan y dynion a aeth i ryfela. Roedd gan y merched fwy o arian i’w wario a helpodd hyn i roi hwb sylweddol i wella economi Cymru.”

Yn ôl yr Athro Deirdre Beddoe, “Mae’r prosiect hwn wedi achub profiadau’r merched hyn a byddant ar gael yn awr ar gyfer haneswyr y dyfodol.”

Gellir gwrando ar y cyfweliadau ar wefan yr archif: www.lleisiaumerchedffatri,cymru