Mae yna fwlch yn parhau o ran gwerthu cryno ddisgiau Cymraeg ar y We, yn ôl Guto Brychan, er ei fod wedi penderfynu, ar ôl pum mlynedd, i ddod â gwefan werthu cerddoriaeth www.Sadwrn.com i ben.
Wrth egluro ei benderfyniad, dywedodd nad oes ganddo mo’r amser bellach i redeg y gofod gwerthu ar y We.
“Mae’r wefan yn dod i ben ddiwedd y mis,” meddai trefnydd a hyrwyddwr Maes B, safle roc a phop yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Pan wnes i ddechrau Sadwrn bum mlynedd yn ôl, mi oeddwn i dal yn llawrydd. Does gen i ddim yr amser i redeg y wefan erbyn hyn, ac mi ydw i’n llawn amser yng Nghlwb Ifor Bach ac yn methu ffeindio’r amser. Doedd ddim yn rhywbeth oedd yn gwneud arian ond yn rhywbeth yr oeddwn i yn hapus i’w redeg.”
“Adnodd da”
“Mae yna werth yn yr adnodd yr oedd y wefan yn cynnig”, meddai Guto Brychan, “byddai’n adnodd da ar gyfer siop Cymraeg, sy’n ychwanegiad at siop go-iawn sy’n bodoli yn barod. Y bwriad gwreiddiol oedd gwerthu llyfrau, cryno ddisgiau ac ati.
“Mae yna botensial i’w wneud yn rhywbeth llawn amser i rywun sy’n wybodus mewn cerddoriaeth ac i werthu unrhyw gynnyrch arall Cymraeg.”
Yn ôl Guto Brychan mae pobl yn parhau i brynu cryno ddisgiau, er bod cwymp mewn gwerthiant, yn ôl ystadegau, wedi digwydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
“Mi ddechreuais y wefan bum mlynedd yn ôl, ac mae’r gwerthiant cryno ddisgiau wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny, ac felly mae yna dal i le i werthu cryno ddisgiau. Mi oedd gwerthiant yn uwch i labeli bach Cymraeg yn hytrach na’r enwau adnabyddus, sy’n dangos fod yna bwrpas i wefan o’r math yma lle nad oes siop Gymraeg yn y cyffiniau.”
Ychwanegodd fod croeso i unrhyw unigolyn neu fusnes sydd â diddordeb i gymryd drosodd y wefan.