Mae adroddiadau, sydd heb eu cadarnhau, bod byddin Nigera wedi dinistrio pencadlys Boko Haram yn nhref Gwoza.

Gwnaed y cyhoeddiad ar gyfrif trydar swyddogol Pencadlys Amddiffyn Nigeria ac fe ddywedwyd hefyd bod “sawl brawychwr wedi marw a nifer wedi cael eu dal”.

Mae byddin Nigera, gyda chymorth gan wledydd cyfagos, wedi ail-feddiannu dwsinau o drefi o ddwylo’r mudiad eithafol Boko Haram dros y deufis diwetha’.