Fe fydd swyddfa papurau’r Caernarfon and Denbigh Herald a’r Daily Post yng Nghaernarfon yn cau ddiwedd mis Mehefin.

Mae’r penderfyniad, yn ôl y perchnogion Trinity Mirror, yn adlewyrchu’r oes ddigidol gyflym a’r angen i newid ar frys i ateb gofynion defnyddwyr newydd ac amrywiol.

Un swydd fydd yn cael ei cholli oherwydd y cau, ac fe fydd newyddiadurwyr a staff hysbysebu yn gweithio o bell yn hytrach nag o’r swyddfa ar Stryd y Porth Mawr.

“Diwrnod trist”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad tros Gaernarfon Alun Ffred a’r AS Hywel Williams o Blaid Cymru, mewn datganiad ar y cyd: “Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i Gaernarfon; bydd cau’r swyddfeydd yn torri cysylltiad 150 o flynyddoedd â newyddiaduraeth leol yn Dre.

“Rydym yn ddiolchgar y bydd mwyafrif o’r swyddi yn cael eu diogelu, a hyderwn y bydd Trinity Mirror yn rhoi pob cefnogaeth i’r holl staff yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Ychwanegodd y golygydd Mark Thomas: “Mae’n siom amlwg i fod yn cau swyddfa sydd wedi cael ei sefydlu ers amser mor hir ond rydym eisiau buddsoddi mewn staff yn hytrach na mewn adeiladau.

“Ond mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf o’r gwelliannau technolegol a beth maen nhw’n ei olygu ar gyfer y cyfryngau modern.”

Bydd swyddfa’r Trinity Mirror yn Widnes hefyd yn cau, yn ôl y cwmni.