Mae uwch-swyddog o Heddlu Gwent wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn honiadau o ymddygiad rhywiol anaddas tuag at gydweithwyr benywaidd a merched oedd yn y ddalfa.

Roedd 41 cyhuddiad, 32 ohonyn nhw’n achosion o gamymddwyn difrifol, wedi eu gwneud am y Sarjant  Richard Evans, 46.

Bydd yn cael ei ddiswyddo ar unwaith ac mae Heddlu Gwent wedi dweud bod ei ymddygiad yn “warthus”.

Mae Richard Evans yn cael ei ddiswyddo yn dilyn achos blaenorol ym mis Awst y llynedd lle penderfynwyd ei fod yn ddieuog o dri achos o ymosod yn rhywiol a dau achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

‘Camddefnydd o awdurdod’

Adran Safonau Proffesiynol Heddlu Gwent fu’n ymchwilio i’r cwynion yn erbyn Richard Evans. Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Craig Guildford:

“Mae’r swyddogion heddlu, aelodau o staff ac aelodau o’r cyhoeddodd wnaeth roi tystiolaeth yn yr achos hwn wedi dangos dewrder aruthrol.

“Roedd ymddygiad Richard Evans yn warthus ac fe wnaeth o gamddefnyddio ei awdurdod wrth ddelio hefo’i gydweithwyr a merched yn y ddalfa. Doedd dim dewis ond ei ddiswyddo.

“Os oes gan unrhyw un bryderon am ymddygiad staff neu swyddog yn Heddlu Gwent, yna dw i’n eu hannog nhw i gysylltu â’r Adran Safonau Proffesiynol.”