Mae’r heddlu wedi enwi dyn 22 oed sydd wedi cael ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad arfog ym mhentref Cynwyd ger Corwen.
Roedd Ciaran Thomas Morris wedi cau ei hun mewn tŷ a bygwth swyddogion heddlu gyda gwn yn ystod y digwyddiad ddechreuodd am tua 9:45yh. Roedd hefyd wedi bygwth anafu ei hun.
Mae’n cael ei gyhuddo o godi helynt, difrod troseddol, bod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o godi ofn a bygwth lladd.
Cafodd Ysgol Bro Ddyfrdwy ei chau yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ail-agor.