Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu ffigurau sy’n dangos bod cynllun Twf Swyddi Cymru wedi cynnig gwaith i dros 300 o bobol ifanc y mis diwetha’, sy’n gynnydd o’r 246 o swyddi gafodd eu cynnig ym mis Chwefror.

Ers i’r llywodraeth lansio’r cynllun 2012, mae’r corff yn adrodd bod 14,656 o swyddi wedi’u llenwi a 17,195 o gyfleoedd gwaith wedi cael eu creu yng Nghymru.

Mae’r swyddi newydd yn cynnwys 598 yng Ngwynedd, 449 ar Ynys Môn, 2,482 yng Nghaerdydd, 1,654 yn Rhondda Cynon Taf a 1,496 yn Abertawe.

Cyflog

O fewn y cynllun, mae’r Llywodraeth yn talu cyflog pobol ifanc rhwng 16-24 oed am chwe mis ac yn ceisio annog cyflogwyr i ehangu eu busnes. Y nod yn y pen draw yw rhoi cymorth i’r bobol ifanc ddod o hyd i swyddi hirdymor.

Wrth groesawu’r ystadegau diweddaraf dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie James:

“Rydym wedi ymrwymo i fynd ati i helpu pobl ifanc i gael gwaith. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod lefelau diweithdra ymysg pobol ifanc yng Nghymru yn lleihau’n gyflymach na’r lefelau yng ngweddill Prydain.”

Daw rhaglen bresennol Twf Swyddi Cymru i ben ar 31 Mawrth ac mae rhaglen ddiwygiedig a fydd yn “canolbwyntio ar anghenion gwaith pobol ifanc” wrthi’n cael ei datblygu.