Mae’r Blaid Lafur wedi herio David Cameron i wynebu Ed Miliband mewn dadl fyw ar deledu. Daeth yr alwad yn dilyn rhaglen deledu gan Sky News a Channel 4 neithiwr lle’r oedd y ddau yn cael eu holi ar wahân o flaen cynulleidfa.
Roedd arweinydd y Blaid Geidwadol wedi perfformio fymryn yn well, yn ôl yr arolygon barn.
Hyd yn hyn mae’r Prif Weinidog wedi gwrthod cymryd rhan mewn dadl deledu wyneb yn wyneb gydag Ed Miliband.
Mae pennaeth ymgyrch etholiadol y Blaid Lafur, Douglas Alexander, wedi galw ar Cameron i ail-ystyried ei benderfyniad, gan ddweud wrth y BBC: “Nid oedd yr hyn a welwyd neithiwr yn ddadl. Nid oedden nhw ar yr un llwyfan, nac yn annerch yr un gynulleidfa, nac yn yr un adeilad…nid oedd David Cameron yn barod i ddadlau wyneb yn wyneb gyda phrif weinidog amgen.
“Dw i’n herio David Cameron eto heddiw – os wyt ti hanner mor hyderus am dy record mewn llywodraeth, am dy arweinyddiaeth, beth am i ti ddod ger bron y cyhoedd… beth am gael dadl wyneb yn wyneb?”
Ras agos?
Yn ôl arolygon barn mae’r bwlch rhwng yn ddau yn gymharol glos gyda pôl ICM ar gyfer y Guardian wedi canfod fod y Prif Weinidog wedi dod i’r brig, gyda 54% yn gweld ei fod wedi perfformio orau, tra bod 46% yn teimlo fod Miliband yn well.
Serch hynny, cafwyd arolwg arall gan YouGov ar gyfer y Times yn nodi canlyniad agosach, gyda Cameron ar y blaen o drwch blewyn, gyda 51% o’i gymharu â 49% i Miliband.