Cameron a Paxman (Llun Sky News a Channel 4)
Y Prif Weinidog oedd wedi ennill y sioe deledu gynta cyn yr Etholiad Cyffredinol, yn ôl pôl piniwn yn union wedi’r rhaglen.

Yn ôl arolwg ICM i’r Guardian, roedd 54% yn credu mai David Cameron oedd wedi gwneud orau wrth i’r ddau gael eu holli ar wahân gan gynulleidfa fyw a’r cyflwynydd Jeremy Paxman.

Roedd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn ôl ar 46% ond fe gafodd gefnogaeth gan rai sylwebyddion, gan gynnwys arweinydd UKIP, Nigel Farage, a oedd yn ei ganmol am ei bersonoliaeth.

Roedd swyddogion yn y Blaid Lafur hefyd yn hawlio bod rhai o’r manylion yn ffafriol iddyn nhw, yn dangos y gallen nhw ddenu mwy o bobol sy’n ansicr am eu pleidlais.

Yr economi, meddai Cameron

Roedd David Cameron wedi pwysleisio’r angen am gryfhau’r economi.

“Yr hyn yr ydw i wedi ei ddysgu yn y pum mlynedd diwetha’ yw na fydd dim yr ydych eisiau ei wneud yn gweithio heb economi cryf sy’n tyfu,” meddai.

“Mae’r ysgolion yr ydyn ni eisiau i’n plant, yr ysbytai yr ydyn ni eisiau pan fyddwn ni’n dost. Mae’r pethau hyn angen yr economi cryf yna.”

Uchelgais, meddai Miliband

Fe fu’n rhaid i Ed Miliband amddiffyn ei benderfyniad i sefyll am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn erbyn ei frawd, David, ac fe ddywedodd fod y berthynas rhyngddyn nhw yn dal i wella.

Roedd ei bwyslais ef ar yr angen i fod â mwy o uchelgais.

“Dw i’n credu bod hwn yn ddewis rhwng y rhai sy’n credu mai dyma’r gorau y gall hi fod i Brydain a’r rhai sy’n credu y gallwn ni wneud yn llawer gwell na hyn.”

Roedd enwogion yn gymysg eu barn wrth drydar wedyn.

Ymateb enwogion

Yn ôl y dyn busnes, Alan Sugar, roedd Ed Miliband wedi gwneud yn dda yn erbyn Jeremy Paxman.

Ond fe ymatebodd pennaeth News International, Rupert Murdoch, i honiad Ed Miliband ei fod wedi “sefyll yn erbyn” y perchennog y Sun.

Dim ond un cyfarfod dau funud oedd wedi bod rhyngddyn nhw, meddai’r dyn busnes, ac yn hwnnw, roedd Ed Miliband wedi bod yn glafoerio trosto.