Jeremy Clarkson
Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn siarad â llygad-dystion posib i’r ffrwgwd rhwng Jeremy Clarkson a chynhyrchydd Top Gear, gan ddweud bod ganddyn nhw “ddyletswydd i ymchwilio” i’r hyn ddigwyddodd.
Ni chafodd cytundeb Clarkson ei adnewyddu gan y BBC ddoe ar ôl i ymchwiliad mewnol ddarganfod fod y cyflwynydd wedi taro Oisin Tymon yn ei wyneb ar ôl ffrae mewn gwesty yn y sir.
Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu bod aelodau o’r cyhoedd wedi cysylltu â nhw i ofyn pa gamau oedd yn cael eu cymryd yn yr achos.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Ni wnaeth unrhyw un oedd yn bresennol yn ystod y digwyddiad yn y gwesty fynd at yr heddlu i adrodd am y drosedd. Serch hynny, mae gennym ni ddyletswydd i ymchwilio os ydyn ni’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni, a dyna’r hyn ry’n ni’n ei wneud yn yr achos yma.
“Ry’n ni eisoes wedi siarad â rhai o’r bobl oedd yn y gwesty ar y pryd ond mae angen i ni siarad â phobl eraill a allai ein helpu i ddarganfod yn union beth ddigwyddodd.”
Ychwanegodd eu bod nhw hefyd wedi cysylltu â chyfreithiwr Oisin Tymon i ofyn a yw’n bwriadu cymryd camau yn yr achos.
Fe fydd yr heddlu yn penderfynu wedyn a oes angen gweithredu ymhellach.
Dyfodol ansicr
Mae Clarkson, 54, yn wynebu dyfodol ansicr wrth i adroddiadau awgrymu y gallai ei gyd-gyflwynwyr ar Top Gear adael y rhaglen.
Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC Tony Hall wedi ei gwneud yn glir ei fod am i’r rhaglen barhau ond mae’r cyd-gyflwynwyr James May a Richard Hammond wedi awgrymu y byddan nhw hefyd yn gadael.
Dywedodd May bod ymadawiad Clarkson yn “drasiedi” a dywedodd Hammond ei fod yn “ddiwedd cyfnod.”
Mae eu cytundebau nhw yn dod i ben ddiwedd y mis.