Dilwyn Price
Fe gyhoeddwyd neithiwr mai Dilwyn Price o Hen Golwyn fydd yn derbyn Gwobr John a Ceridwen gan yr Urdd eleni.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yn Eisteddfod Aelwydydd Conwy yn Llangernyw nos Fercher.

Mae’r wobr flynyddol yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi “gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru” ac yn cael ei roi i Dilwyn Price eleni am ei waith gwirfoddoli gyda’r Urdd ers dros 40 mlynedd.

Er ei fod wedi gwneud amryw o dasgau – o redeg adrannau ac aelwydydd, hyfforddi aelodau ar gyfer yr Eisteddfod i fod yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Conwy 2008 – mae’n fwyaf adnabyddus am ei gyfraniad i Jamboris yr Urdd ar ôl eu harwain ers 1988.

‘Brwdfrydedd heintus’

Cafodd Dilwyn Price ei enwebu gan Derfel Thomas o Fochdre, Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Conwy.  Dywedodd: “Mae gan Dilwyn rhyw ddylanwad magnetig ar blant a phobol ifanc – mae ei frwdfrydedd yn heintus ac yn gwarantu llwyddiant beth bynnag fo’r gweithgaredd neu’r digwyddiad mae’n rhan ohono.”

Mae Dilwyn Price yn wreiddiol o Rhewl Mostyn, ond bellach mae’n byw yn Hen Golwyn gyda’i wraig Helen.  Mae ganddyn nhw dri o blant – Daniel, Nia a Hannah – sydd erbyn hyn yn dilyn ôl traed eu tad yn arwain adrannau ac yn hyfforddi plant a phobol ifanc.