Zayn Malik, ail o'r chwith, gydag aelodau eraill One Direction
Mae’r canwr Zayn Malik wedi gadael One Direction, cyhoeddod y grŵp mewn datganiad heddiw.

Fe fydd y pedwar aelod arall yn parhau gyda’r grŵp ar gyfer eu taith ryngwladol ac er mwyn recordio eu pumed albwm ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd Zayn Malik: “Mae fy mywyd gyda One Direction wedi bod yn fwy na wnes i erioed ei ddychmygu. Ond ar ôl pum mlynedd dwi’n teimlo mai rŵan yw’r amser cywir i mi adael y band.

“Mi faswn i’n hoffi ymddiheuro i’r cefnogwyr os dw i wedi eu siomi, ond mae’n rhaid i mi wneud beth sy’n teimlo’n iawn.”

Perthynas

Fe wnaeth y canwr gymryd amser i ffwrdd o daith ryngwladol y band yr wythnos diwethaf oherwydd “pwysau gwaith”. Bu’n rhaid iddo ddychwelyd i Loegr at ei ddyweddi Perrie Edwards gan fod honiadau ei fod wedi ei gysylltu’n agos at fenyw arall.

“Rydym yn drist iawn bod Zayn yn gadael ond yn parchu ei ddewis yn llwyr,” meddai gweddill y grŵp.