Jeremy Clarkson
Mae’r BBC wedi cyhoeddi na fydd yn adnewyddu cytundeb cyflwynydd Top Gear Jeremy Clarkson.

Cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl gwrandawiad disgyblu, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi taro cynhyrchydd y rhaglen, Oisin Tymon.

Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall ei fod yn “difaru” gorfod gwneud y penderfyniad.

Cafodd Clarkson ei wahardd o’i waith yn dilyn y digwyddiad honedig mewn gwesty yn Swydd Efrog.

Cadarnhaodd yr Arglwydd Hall ei fod wedi cyfarfod gyda’r ddau a’i fod yn cyhoeddi canlyniadau ymchwiliad mewnol y BBC, er nad oedd “unrhyw bleser” wrth wneud hynny.

Dywedodd fod “parch at eraill” yn un o brif ddisgwyliadau’r BBC.

“Alla i ddim esgusodi’r hyn ddigwyddodd ar yr achlysur hwn.”

Ychwanegodd fod rhaid i Oisin Tymon dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad corfforol a geiriol “o natur eithafol”.

“I fi, mae’r llinell wedi’i chroesi. Ni all fod un rheol i un person a rheol arall i rywun arall…”

Fe allai Clarkson wynebu ymchwiliad gan yr heddlu gan fod Heddlu Gogledd Sir Efrog wedi gofyn i’r BBC am gopi o’r adroddiad i’r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y byddan nhw’n “asesu’r wybodaeth yn briodol ac yn gweithredu os oes angen.”

‘Talent unigryw’

Yn dilyn y newyddion, dywedodd Oisin Tymon mewn datganiad: “Rydw i wedi gweithio ar Top Gear ers bron i ddegawd, ac mae’n rhaglen rwy’n ei charu. Dros y cyfnod yma rydw i a  Jeremy wedi cael perthynas waith bositif a llwyddiannus.

“Mae e’n dalent unigryw ac rwy’n ymwybodol iawn y bydd nifer yn difaru y bydd ei ran yn y rhaglen yn dod i ben yn y modd yma.”

Cyflwynydd newydd

Mae’r dyfalu eisoes wedi dechrau ynghylch pwy fydd yn disodli Jeremy Clarkson fel cyflwynydd Top Gear.

Ymhlith y ffefrynnau ar hyn o bryd mae Chris Evans a Jodie Kidd.

Mae dyfodol y ddau gyflwynydd arall, James May a Richard Hammond yn parhau’n aneglur ar hyn o bryd.

Dywedodd James May prynhawn ma y bydd yn gorfod “ystyried yn ddwys” cyn gwneud penderfyniad am ei ddyfodol.