Yr Athro R Geraint Gruffydd
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Athro R Geraint Gruffydd, sydd wedi marw’n 86 oed.
Cafodd ei eni yn Nhal-y-bont ym Meirionnydd yn 1928, a’i fagu yng Nghwm Ystwyth a Chapel Bangor.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen.
Bu’n olygydd cynorthwyol Geiriadur Prifysgol Cymru cyn derbyn swydd fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1955.
Cafodd ei benodi’n Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1970, ac yn Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1980.
Fe fu’n Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Aberystwyth rhwng 1985 a 1993.
Roedd yn arbenigwr ar lenyddiaeth y Dadeni, y Diwygiad Protestannaidd a’r Piwritaniaid cynnar.
Ef oedd golygydd Meistri’r Canrifoedd a chasgliad o ysgrifau Saunders Lewis.
‘Ysgolhaig arbennig’
Mewn datganiad, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol: “Yn ddiamheuol, roedd yr Athro Geraint yn un o ysgolheigion mwyaf yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth.
“Rydym yn ei gofio’n arbennig heddiw fel Llyfrgellydd a phennaeth llwyddiannus a nodedig iawn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 1980-85.
“Cyn hynny bu’n Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth rhwng 1970-79 ac yna’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ystod y blynyddoedd 1985-1993, swydd a oedd wrth fodd ei galon.
“Rydym nid yn unig yn cydymdeimlo’n fawr ag Eluned ei briod, a’r teulu ond hefyd yn sylweddoli maint y golled hon i’r genedl gyfan yn ystod cyfnod lle y gwelwyd colli nifer o gewri diwylliant a dysg Cymru.”
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd cyn-lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Andrew Green: “Trist clywed am farwolaeth R Geraint Gruffydd, 6ed Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ysgolhaig arbennig a dyn hynod garedig.”
Dywedodd Derec Llwyd Morgan: “Ef oedd ysgolhaig Cymraeg gorau’i genhedlaeth. Y peth rhyfedda oedd ei fod o’n gallu trafod pob cyfnod yn hanes Cymru fel pe bai’n arbenigwr arnyn nhw i gyd.
“Roedd o’n gapten llong, yn hawddgar a phob amser yn eich cefnogi chi. Ac wrth gwrs, roedd o’n Gristion i’r carn.”
‘Arweinydd academaidd’
Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yr Athro Dafydd Johnston: “Gyda marwolaeth yr Athro R. Geraint Gruffydd mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wedi colli un o’i sylfaenwyr a’i chefnogwr pennaf.
“Gweledigaeth Geraint Gruffydd a’i gyfaill agos J. E. Caerwyn Williams oedd canolfan ymchwil arbenigol o’r fath, a Geraint oedd y Cyfarwyddwr cyntaf pan sefydlwyd y Ganolfan yn 1985.
“Yn ystod ei wyth mlynedd wrth y llyw bu’n arwain tîm o ymchwilwyr i olygu holl gerddi Beirdd y Tywysogion a’u cyflwyno mewn cyfres fawreddog o saith gyfrol a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru rhwng 1991 a 1996.
“Roedd gwaith tîm o’r fath yn beth newydd ym maes y dyniaethau ar y pryd, ac mae llwyddiant y prosiect hwn yn tystio i allu Geraint fel arweinydd academaidd.
“O blith ei holl gyfraniadau disglair i ysgolheictod y Gymraeg, y gyfres hon efallai yw ei gampwaith mwyaf oll.”