Mae’n ddiwedd cyfnod i’r siartiau wrth i’r diwydiant cerddoriaeth gyhoeddi eu bod nhw wedi cytuno i symud y dyddiadau mae senglau ac albymau’n cael eu rhyddhau.
Bydd hynny’n golygu diwedd ar y rhaglen siartiau ar brynhawniau Sul ar BBC Radio 1, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflwyno gan Clara Amfo.
Yn lle hynny fe fydd y siartiau yn symud i brynhawn dydd Gwener a rhaglen Greg James rhwng 4yh a 6yh – awr yn fyrrach na’r slot presennol.
Newid rhyngwladol
Mae’r newid wedi dod yn sgil penderfyniad gan IFPI, y corff sydd yn cynrychioli’r diwydiant recordiau yn rhyngwladol, i newid y dyddiau mae caneuon yn cael eu rhyddhau.
Ar hyn o bryd mae senglau ym Mhrydain yn cael eu rhyddhau ar ddydd Sul ac albymau ar ddydd Llun, ond o’r haf ymlaen fe fydd popeth yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener.
Yn ddiweddar mae’r siartiau cerddorol wedi dechrau cynnwys gwerthiant dros y we yn ogystal â chopïau caled.
Dywedodd Radio 1 y byddai’r slot byrrach yn golygu bod rhaid dewis a dethol pa senglau o’r siart fyddai’n cael eu chwarae bob wythnos, ond y byddai pob cân yn yr 20 uchaf dal yn cael ei chwarae.
“Bydd cynulleidfa newydd yn gallu gwrando ar y siartiau ar brynhawn dydd Gwener ac mae’n cael cyflwynydd a fformat newydd,” meddai rheolwr Radio 1 Ben Cooper.
“Bydd yn rhaid iddo fod yn dynnach a mwy slic.”