Y Parchedig Alison White
Mae Archesgob Caerefrog wedi cyhoeddi’r bore ‘ma mai y Parchedig Alison White fydd yr ail esgob benywaidd i gael ei phenodi.

Ar hyn o bryd, mae hi’n cynrychioli esgobaeth Riding Mill yn Newcastle ac fe fydd hi’n cael ei chysegru fel Esgob Hull ar 3 Gorffennaf.

Cafodd ei hordeinio yn offeiriad yn 1994 ac mae hi wedi dweud bod cyhoeddiad yr Eglwys yn “gyffrous iawn”.

Ychwanegodd yr Archesgob Dr John Sentamu: “Mae hyn yn ddiwrnod llawn hapusrwydd. Rwyf wrth fy modd yn croesawu Alison fel Esgob nesaf Hull.”

Y Parchedig Libby Lane oedd y fenyw gyntaf erioed i gael ei phenodi yn esgob mewn seremoni ym mis Ionawr, wedi i fwyafrif o aelodau’r Eglwys gymeradwyo cynlluniau i ordeinio merched yn swyddogol ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.