Mae tasglu wedi awgrymu sefydlu rheoleiddiwr ar gyfer y diwydiant ynni tanddaearol er mwyn adfer hyder y cyhoedd yn y diwydiant.

Dylai’r rheoleiddiwr arfaethedig gynnal arolwg o safleoedd ffracio, yn ôl adroddiad gan y tasglu, ac fe ddylid rhoi’r cyfle i gymunedau fod yn rhan o drafodaethau a monitro’r broses.

Mae’r tasglu hefyd wedi awgrymu y dylid cwblhau asesiadau risg, ac nid asesiadau o effeithiau amgylcheddol, cyn dechrau ar y gwaith o ffracio.

Mae’r adroddiad hefyd wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldebau presennol Asiantaeth yr Amgylchedd, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r Adran Ynni i’r rheoleiddiwr newydd.

Galwodd y tasglu hefyd ar i Lywodraeth Prydain ddeddfu i sefydlu rheoleiddiwr newydd ar ôl yr etholiad cyffredinol.

‘Diffyg hyder’

Dywedodd cadeirydd y tasglu, yr Arglwydd Chris Smith: “O siarad â chymunedau lleol, rydym wedi’n taro gan mor gymhleth yw’r fframwaith rheoleiddio, a’r ffaith fod hyn yn arwain at ddiffyg hyder yn y system.”

Ychwanegodd y byddai sefydlu rheoleiddiwr yn “arwain at fwy o hyder ymhlith y cyhoedd”.

Mae disgwyl i’r tasglu gyhoeddi adroddiad pellach ar gynllunio, rheoleiddio ac ymrwymiad cymunedau lleol yn ddiweddarach eleni, ynghyd ag adroddiadau am yr effeithiau amgylcheddol, newid hinsawdd a’r economi ddechrau 2016.