Roger Lewis
Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis yw cadeirydd newydd maes awyr Caerdydd.

Bydd Lewis, sy’n gadael Undeb Rygbi Cymru ar ddiwedd Cwpan y Byd, yn dechrau ar ei waith ar 1 Tachwedd, gan olynu’r Arglwydd Rowe-Beddoe.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart: “Rwy wrth fy modd fod Roger wedi cytuno i dderbyn y swydd bwysig hon ac i adeiladu ar y cynnydd sylweddol wrth ehangu teithiau a chyfleusterau sydd eisoes wedi’i arwain ym maes awyr Caerdydd gan yr Arglwydd Rowe-Beddoe dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Mae gan Roger lu o brofiad a nodweddion busnes, ynghyd â brwdfrydedd a dyfalbarhad sylweddol i ddatblygu maes awyr Caerdydd ymhellach fel porth hanfodol i Gymru ar gyfer busnesau a theithwyr hamdden.”

‘Cyfraniad allweddol’

Mae Roger Lewis eisoes yn gadeirydd Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.

“Mae’r maes awyr yn ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Rhanbarth Prifddinas Caerdydd sydd wedi’i gysylltu’n hawdd â gweddill Ewrop a’r byd, felly bydd cael yr un person wrth lyw’r ddau fwrdd yn sicrhau camau cydlynol i ddatblygu’r maes awyr a’r ffordd y mae’n gwasanaethu’r Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ehangach.”

Diolchodd i’r Arglwydd Rowe-Beddoe am ei ymroddiad, gan ddweud bod y maes awyr mewn sefyllfa gryfach oherwydd ei “gyfraniad allweddol” iddo.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi croesawu penodiad Roger Lewis yn gadeirydd.

“Mae Roger wedi gwneud gwaith gwych fel Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru dros y naw mlynedd diwethaf ac rwy’n edrych ymlaen at yr un lefel o broffesiynoldeb ac ymroddiad ganddo pan fydd yn cymryd at ei waith ym maes awyr Caerdydd.”

Dywedodd Roger Lewis ei fod “wrth ei fodd” yn dilyn ei benodiad, a dywedodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe ei fod yn “dymuno llwyddiant” iddo.