Corey Price
Fe fydd angladd un o’r pedwar a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A470 yn Aberhonddu’n cael ei gynnal heddiw.

Bydd angladd Corey Price, 17, yn cael ei gynnal yn Y Barri am 12.30 y prynhawn yma.

Cafodd ei ladd ynghyd â’i ffrindiau, Rhodri Miller ac Alesha O’Connor yn y gwrthdrawiad ar Fawrth 6.

Bu farw Margaret Challis, 68, o Ferthyr Tudful yn y gwrthdrawiad hefyd, a chafodd ei hangladd hithau ei gynnal ddoe.

Cafodd angladd Alesha O’Connor ei gynnal yn Y Barri ddydd Gwener, ac angladd Rhodri Miller  yn Llangatwg dydd Sadwrn.

Cafodd gwasanaeth coffa i’r pedwar ei gynnal ar Fawrth 11, pan oedd mwy na 2,000 o bobol yn bresennol.

Mewn datganiad, dywedodd rhieni Corey Price: “Mae teulu Corey Price wedi tristau am golled sydyn a thrasig eu mab, brawd, ewythr ac ŵyr addfwyn, hyfryd a gofalus.

“Ni all geiriau esbonio sut rydyn ni’n teimlo ond rydym yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth ein teulu a’n ffrindiau ar adeg drasig. Fe fydd colled drist ar ei ôl.”

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd, lle’r oedd yn aelod o’r Academi, hefyd wedi talu teyrnged iddo.