Mae disgwyl i Ed Balls gyhoeddi heddiw na fyddai Llafur yn codi’r dreth ar werth (TAW) petai’r blaid yn dychwelyd i rym ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
Yn ôl canghellor yr wrthblaid, mae’r Ceidwadwyr yn bwriadu codi’r dreth er mwyn talu am £7 biliwn o doriadau treth incwm wnaethon nhw addo yn y gyllideb wythnos diwethaf.
Ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud y byddai’n rhaid i Lafur godi yswiriant gwladol neu dreth incwm er mwyn bodloni ei ymrwymiad i ddileu’r diffyg.
Meddai llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru, Owen Smith, fod penderfyniad y Glymblaid yn San Steffan i godi TAW wedi costio £1,800 yr un i aelwydydd Cymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Roedd y Canghellor George Osborne wedi codi TAW o 17.5% i 20% yn syth ar ôl Etholiad Cyffredinol 2010.
Dywedodd Owen Smith AS: “Mae’r TAW yn dreth sy’n taro pawb, gan wneud nwyddau pob dydd fel bwyd, dillad a phetrol yn ddrytach.
“Mae’n dangos yn union ble mae blaenoriaethau’r Torïaid gan eu bod wedi dewis codi’r TAW tra’n torri trethi i filiwnyddion.
“Mae Llafur yn wahanol a dyna pam ein bod yn rhoi addewid clir i bobl Cymru na fyddwn ni’n cynyddu TAW os ydym yn ennill yr etholiad ym mis Mai.”