Banc Lloegr
Roedd cyfradd chwyddiant wedi gostwng i 0% fis diwethaf – ei lefel isaf ers i gofnodion ddechrau yn 1989.

Roedd Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi gostwng ar ôl cofnodi lefel o 0.3% ym mis Ionawr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Bu’r gostyngiad yn fwy na’r disgwyl ac mae disgwyl i chwyddiant ostwng ymhellach yn y misoedd i ddod.

Gostyngiad mewn prisiau bwyd, tanwydd a dodrefn sydd i gyfrif am y gostyngiad mewn CPI.

Fe allai olygu y bydd Banc Lloegr yn oedi cyn codi cyfraddau llog sydd wedi bod yn 0.5% ers chwe blynedd.

Roedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) wedi gostwng i 1% o 1.5% ym mis Ionawr.