Y bwriad yw llosgi pren a fyddai’n cynhyrchu 25MW o drydan ar y safle yn Nhrecŵn
Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer gorsaf biomas newydd yn Nhrecŵn ger Abergwaun gael eu cymeradwyo heddiw.

Bydd pwyllgor cynllunio’r cyngor yn trafod yr orsaf gwerth £80 miliwn ar hen safle storfa arfau’r Llynges Frenhinol yn ddiweddarach heddiw.

Bwriad y perchnogion, The Valley (Pembrokeshire) Ltd, yw codi gorsaf i losgi pren a fyddai’n cynhyrchu 25MW o drydan.

Fe allai 45 o swyddi gael eu creu gan y cynllun.

Mae swyddogion cynllunio’r cyngor wedi argymell bod y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo ar yr amod fod amodau llygredd a mesurau rheoli sŵn yn cael eu rhoi ar waith.

Mae Cyngor Cymuned Cleddau hefyd o blaid, tra bod grwpiau amgylcheddol wedi lleisio pryderon am y cynllun.

Meddai Cyfeillion y Ddaear y byddai’r orsaf yn gwastraffu bron i dri chwarter yr egni mae’n ei gynhyrchu ar ffurf gwres gwastraff.