Utah yw’r unig dalaith yn yr Unol Daleithiau sydd wedi caniatáu saethu carcharorion sydd wedi’u dedfrydu i’r gosb eithaf, pan nad oes cyffuriau ar gyfer pigiadiadau angheuol ar gael.
Wrth gymeradwyo’r gyfraith, cyfaddefodd Llywodraethwr y dalaith, Gary Herbert, fod y dull “braidd yn erchyll”.
Ond ychwanegodd fod Utah yn dalaith sy’n caniatáu’r gosb eithaf, a bod angen dull dienyddio “wrth gefn” rhag ofn fod y prinder cyffuriau ar gyfer pigiadau marwol yn parhau.
Mae Utah yn un o nifer o daleithiau sy’n chwilio am ffyrdd newydd o gyflawni’r gosb eithaf, yn enwedig ar ôl i bigiad angheuol fynd o’i le yn Oklahoma y llynedd.
Mae taleithiau hefyd yn cael trafferth dod o hyd i’r cyffuriau maen nhw eu hangen ar gyfer y pigiadau herwydd bod cwmnïau Ewropeaidd, sy’n gwrthwynebu’r gosb eithaf, yn gwrthod gwerthu’r cyffuriau i garchardai yn yr Unol Daleithiau.
Er na fydd y dienyddiad nesaf yn Utah yn cael ei gynnal am ychydig flynyddoedd yn ôl pob tebyg, roedd gwleidyddion yn awyddus i gytuno ar ddull wrth gefn fel nad yw’r awdurdodau yn gorfod dod o hyd i ateb ar frys os yw’r prinder cyffuriau yn llusgo ymlaen.