Mae elusen ganser wedi rhyddhau dadansoddiad heddiw sy’n dangos nad yw cyfraddau goroesi canser yng Nghymru a gweddill Prydain wedi gwella mewn degawd.

Dangosodd ymchwil Cymorth Canser Macmillan fod y cyfraddau goroesi ar yr un lefel neu’r tu ôl i lefel yr oedd nifer o wledydd eraill Ewrop wedi’i chyrraedd erbyn diwedd y 1990au.

Ond roedd y ffigyrau a ddefnyddiwyd yn cymharu blynyddoedd 1995-99 a 2005-09, y set gyflawn ddiweddaraf o ffigyrau oedd ar gael, gan olygu nad yw o reidrwydd yn portreadu’r darlun fel y mae bellach.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Macmillan wrth golwg360 ei bod hi’n cymryd amser i ddehongli a chymharu data rhwng gwledydd yn gywir, gan esbonio’r oedi cyn gallu cyhoeddi’r adroddiad.

Cymhariaeth fyd-eang

Roedd yr astudiaeth fyd-eang CONCORD-2 yn cymharu cyfraddau goroesi canser am bum mlynedd ar gyfer ystod o ganserau cyffredin.

Yn ôl y ffigyrau, doedd y cyfraddau goroesi yng Nghymru ar gyfer canser yr ysgyfaint, y fron, y coluddyn a’r stumog 10 mlynedd y tu ôl i’r cyfraddau a welwyd yn y gwledydd eraill yn Ewrop.

Awgrymodd yr elusen fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau goroesi canser gymaint y tu ôl i weddill Ewrop eu bod “yn dal yn y 1990au” ar hyn o bryd.

Roedd pryder arbennig ynglŷn â chanser yr ysgyfaint, gyda’r elusen yn cyfeirio at Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru o fis Ionawr 2014 oedd yn dweud bod cleifion a oedd wedi cael diagnosis canser yr ysgyfaint yn llawer llai cadarnhaol am eu triniaeth na chleifion o wledydd eraill.

Camau Llywodraeth Cymru

Fodd bynnag fe awgrymodd Susan Morris, Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, y byddai’r camau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn medru gwella’r ffigyrau hynny.

“Mae ein cymdogion yn Ewrop yn llwyddo i gyflawni cyfraddau goroesi llawer gwell na Chymru,” meddai Susan Morris.

“Gobaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru yw bod llai o wahaniaeth rhwng Cymru a’r gwledydd mwyaf llwyddiannus yn Ewrop ond mae ein hadroddiad yn dangos bod y bwlch yn dal i fod yn llawer rhy lydan.

“Mae’n galondid i Macmillan fod Llywodraeth Cymru wedi nodi’n benodol fod angen gwneud rhagor dros bobl sydd wedi cael diagnosis canser yr ysgyfaint, ac mae Macmillan yn cymryd rhan yn y tasglu hwnnw.

“Hefyd mae Macmillan eisoes yn gweithio ar yr hyn y dylid ei gynnwys mewn Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Canser yng Nghymru a byddwn yn cyflwyno hyn cyn Etholiadau’r Cynulliad yn 2016.”