Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd i geisio helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn camddefnyddio sylweddau.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae hyd at 75% o bobl sy’n camddefnyddio cyffuriau hefyd yn dioddef o broblem iechyd meddwl, ac mae dros hanner y bobl sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau hefyd yn cael diagnosis o salwch iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
Bwriad y canllawiau newydd fydd ceisio sicrhau bod y bobl hynny’n cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, ac fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal er mwyn rhoi cyfle i bobl ymateb i’r cynlluniau.
Alcohol yn gyffredin
Yn ôl Llywodraeth Cymru, alcohol yw’r prif sylwedd sydd yn cael ei gamddefnyddio gan y rheiny sydd yn dioddef o iechyd meddwl, gyda chamddefnydd o gyffuriau weithiau’n cyd-fynd â hynny.
Fe allai hynny achosi problemau teuluol a phroffesiynol, ac mewn achosion mwy difrifol arwain at achosion o hunanladdiadau, gorddos damweiniol, sepsis neu glefyd yr iau, a throseddu.
Dywedodd y Llywodraeth y byddai’r fframwaith gwasanaeth newydd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym myd iechyd i weithio gyda’i gilydd, ac yn integreiddio gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Cyhoeddwyd amcanion penodol hefyd yn y canllawiau newydd, gan gynnwys ceisio atal ac ymyrryd problemau’n gynnar, triniaeth fwy holistaidd, cyfathrebu gwell rhwng asiantaethau a chyda theuluoedd, a defnydd gwell o adnoddau.
Buddsoddi £50m
Yn ystod 2015-16 fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwario dros £580m ar wasanaethau iechyd meddwl, gyda buddsoddiad o £50m yn cael ei roi tuag at raglenni i fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
“Yn aml mae gan bobl sydd â phroblem camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl anghenion cymhleth ac mae angen dull cydgysylltiedig o ymdrin â nhw gan ystod o wasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, a hynny mewn lleoliadau statudol ac anstatudol,” meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i bobl wella drwy hybu gwelliant yn y cydweithio rhwng gwasanaethau.
“Mae’n ofynnol bod gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a, lle bo’n briodol, asiantaethau cyfiawnder yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a gofalwyr i wella’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni drwy ymyriadau gan wasanaethau.”