David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud na fydd yn ceisio am drydydd tymor fel Prif Weinidog os yw’n aros yn Downing Street ar ôl yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai.

Dywedodd y byddai’n gwneud ail dymor – a allai barhau tan 2020 – os yw’n cael ei ethol ond dywedodd y byddai trydydd tymor yn ormod.

Roedd hefyd wedi awgrymu tri olynydd posib pan fydd yn ildio’r awenau – yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, y Canghellor George Osborne a Maer Llundain Boris Johnson.

Ond mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn “drahaus” ac o gymryd pleidleisiau’n ganiataol.

Mae ffynonellau yn Downing Street yn mynnu bod David Cameron yn canolbwyntio ar ennill yr etholiad ymhen chwe wythnos.

“Fel mae’r Prif Weinidog wedi dweud sawl gwaith, mae’n bwriadu gwasanaethu am ail dymor os yw’n ennill yr etholiad.”

Daeth sylwadau David Cameron ynglŷn â’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol mewn cyfweliad gyda BBC News.

Dywedodd bod ganddo fwy i gynnig a’i fod “am orffen y gwaith” ond nad oedd yn ystyried trydydd tymor.

‘Trahaus’

Ond yn ôl cadeirydd ymgyrch etholiadol y Blaid Lafur, Douglas Alexander, “mae’r Torïaid yn cymryd y cyhoedd yn ganiataol.”

Mae David Cameron yn “drahaus” meddai, i gymryd yn ganiataol y gall geisio am drydydd tymor yn 2020 “cyn i’r cyhoedd ym Mhrydain gael y cyfle i ddweud eu dweud yn yr etholiad yma.”

“Yn y DU, pobl Prydain ac nid y Prif Weinidog sy’n penderfynu pwy sy’n aros mewn grym,” meddai.