Afzal Amin
Mae ymgeisydd etholiadol Ceidwadol, a oedd wedi ei wahardd o’r blaid dros dro, wedi ymddiswyddo fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol ar 7 Mai.

Mae’n dilyn honiadau bod  Afzal Amin wedi cael ei ffilmio mewn trafodaethau gyda Tommy Robinson, cyn arweinydd y grŵp asgell dde, yr English Defence League (EDL).

Roedd Afzal Amin wedi dweud yn gynharach y byddai’n cyflwyno “amddiffyniad cadarn” o’i weithredoedd yn y gobaith o gael aros yn ymgeisydd ar gyfer sedd gogledd Dudley.

Ond yn ôl ffynonellau’r blaid mae Amin wedi ymddiswyddo fel ymgeisydd y blaid “ar unwaith”, ddiwrnod yn unig cyn i wrandawiad disgyblu gael ei gynnal.

Fe fydd y Ceidwadwyr nawr yn “gweithredu’n gyflym” i ddewis ymgeisydd newydd cyn i’r enwebiadau gau ar 9 Ebrill.

Roedd Afzal Amin wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio gyda’r EDL i drefnu gorymdaith yn erbyn mosg newydd yn etholaeth Dudley, cyn iddo gymryd y clod am ganslo’r orymdaith er mwyn rhoi hwb i’w ymgyrch  yn yr etholiad cyffredinol.

Cafodd ei ffilmio gan gyn arweinydd yr EDL, Tommy Robinson, wnaeth ryddhau’r fideo i’r wasg am ei fod yn gwrthwynebu cael ei ddefnyddio yn y fath fodd.

Mae Dudley yn nwylo Llafur ar hyn o bryd a enillodd y sedd yn 2010 gyda mwyafrif o  649 yn unig.