Y DJ Neil Fox
Mae’r DJ Neil Fox wedi cael ei gyhuddo o naw o droseddau rhyw yn ymwneud a chwe merch – tair ohonyn nhw oedd o dan oed ar y pryd.
Dywedodd Scotland Yard y bydd Fox, 53, o Fulham yng ngorllewin Llundain yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar 16 Ebrill.
Honnir bod y troseddau’n ymwneud a’r tair merch o dan oed wedi digwydd rhwng 1991 a 1996.
Roedd yr ymosodiadau honedig ar y tair merch arall wedi digwydd rhwng 2003 a 2014.
Dywedodd cyfreithiwr Neil Fox ei fod yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ond na fyddai’n briodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.
Cafodd y DJ, sy’n cael ei adnabod fel Dr Fox, ei arestio yn gynharach y mis hwn ac ym mis Rhagfyr.
Mae wedi ei gyhuddo o un cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 14 oed, a dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferched o dan 16 oed, mewn perthynas â’r tair merch o dan oed.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o bedwar achos o ymosod yn anweddus ar ferch dros 16 oed, a dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ferched.
Cafodd y cyhuddiadau eu cyhoeddi ar ôl i Fox fynd i orsaf yr heddlu yn Charing Cross yn Llundain.
Dywedodd Scotland Yard nad yw’r ymchwiliad yn rhan o Operation Yewtree, sef yr ymchwiliad i achosion o gam-drin gan Jimmy Savile ac eraill.