Claudia Lawrence
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r gogyddes, Claudia Lawrence.

Cafodd y dyn, sy’n ei 50au ac o ardal Caerefrog, ei arestio heddiw, dywedodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog.

Cafodd Claudia Lawrence ei gweld diwethaf chwe blynedd yn ôl ar Fawrth 18, 2009.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod archwiliadau’n cael eu cynnal mewn perthynas â diflaniad  y gogyddes, ac mae disgwyl i’r chwilio barhau am nifer o ddyddiau.

Ychwanegodd y llefarydd nad yw Claudia Lawrence, a oedd yn 35 pan aeth ar goll, wedi cael ei darganfod.

Mae teulu Claudia Lawrence wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion, dywedodd yr heddlu.

Mae Ditectif Uwch-arolygydd Dai Malyn, o Heddlu Gogledd Swydd Efrog, wedi annog pobl rhag cyhoeddi enw’r dyn ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd y byddai hynny’n sicrhau nad yw’r ymchwiliad na’r broses gyfreithiol yn cael eu cyfaddawdu yn ystod y “cyfnod hollbwysig hwn”.