Mae ymgeisydd etholiadol Ceidwadol sydd wedi ei wahardd o’r blaid dros dro yn dilyn honiadau ei fod wedi cydweithio â’r grŵp asgell dde, yr English Defence League (EDL), wedi dweud y bydd yn cyflwyno “amddiffyniad cadarn” o’i weithredoedd.
Mae Afzal Amin wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio gyda’r EDL i drefnu gorymdaith yn erbyn mosg newydd yn etholaeth Dudley, cyn iddo gymryd y clod am ganslo’r orymdaith er mwyn rhoi hwb i’w ymgyrch yn yr etholiad cyffredinol.
Mae Afzal Amin yn honni ei fod wedi cael ei dwyllo, ac mae’n wynebu gwrandawiad disgyblu yfory. Mae adroddiadau’n awgrymu y gallai gael ei ddiswyddo fel ymgeisydd Torïaidd yn Dudley o fewn dyddiau.
Cafodd ei ffilmio gan gyn arweinydd yr EDL, Tommy Robinson, wnaeth ryddhau’r fideo i’r wasg.
Adroddodd y Mail on Sunday ddoe fod yr honiadau yn ymwneud a’r darpar ymgeisydd 40 mlwydd oed yn awgrymu talu aelodau’r EDL i ganfasio ar ei ran, a’i fod hefyd wedi sôn am drefnu protest ffug wythnos yn unig ar ôl protest go iawn gan 600 o aelodau’r EDL yn Dudley wnaeth arwain at 30 o bobl yn cael eu harestio.
Wrth amddiffyn ei hun heddiw, dywedodd Afzal Amin wrth raglen Today ar Radio 4 fod yr hyn yr oedd wedi’i awgrymu mewn gwirionedd yn “fesurau datrys gwrthdaro”.
Mynnodd fod yr ail orymdaith wedi cael ei gynnig gan Tommy Robinson mewn cyfarfod ym mwyty Toby Carvery yn Dudley.
Ychwanegodd Afzal Amin y byddai’n gwneud ei achos i’r Blaid Geidwadol yn y gwrandawiad yfory.
Llafur sydd â mwyafrif yn etholaeth Dudley ar hyn o bryd ond gyda mwyafrif o 649 yn unig.