Bydd teithwyr ar rai o lwybrau rheilffyrdd prysuraf y DU yn cael trenau trydan newydd fel rhan o gytundeb rheilffyrdd newydd.

O wanwyn 2016, bydd y cyntaf o 58 o drenau trydan newydd yn cael ei gyflwyno ar lwybrau Dyffryn Tafwys cwmni First Great Western.

Yna, o haf 2017, bydd y trenau newydd hefyd yn gwasanaethu’r rheilffordd rhwng Paddington yn Llundain a de Cymru, Bryste a’r Cotswolds.

Mae disgwyl i’r trenau newydd ddarparu 3 miliwn o seddi ychwanegol erbyn 2018.

Cafodd y trenau newydd eu datgelu heddiw ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y byddai cytundeb FirstGroup, sy’n cynnal First Great Western, yn parhau tan fis Ebrill 2019.

Bydd First Great Western yn gyfrifol am gyflwyno trenau trydan cyflym yn y DU, a fydd yn cael eu hadeiladu gan Hitachi yn Japan.

O dan delerau’r cytundeb, bydd First Great Western yn talu tua £68 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth y DU i  weithredu’r cytundeb tan fis Ebrill 2019.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Patrick McLoughlin y bydd teithwyr yn cael “bargen wych”, tra dywedodd First Great Western y byddai’r trefniant newydd yn elwa teithwyr a threthdalwyr.

Ond dywedodd undeb gyrwyr trenau, Aslef, fod rhoi’r cytundeb i FirstGroup yn “hollol warthus” a’i fod yn “gwarantu incwm i’r cwmni heb fawr ddim risg nac unrhyw gymhelliant i wella perfformiad”.