Mae adroddiadau bod dynes wedi marw a dau berson arall wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ym Mhenplas, Abertawe neithiwr.

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw ychydig cyn hanner nos  i’r tân mewn tŷ yn ardal Llangwm, Penplas o’r ddinas.

Cafodd dyn a dynes eu cludo i Ysbyty Treforys lle maen nhw mewn cyflwr sefydlog ac mae ci hefyd wedi cael ei achub gan ddiffoddwyr tân.

Meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw’n credu bod trydydd person wedi marw yn y tân ac y byddai swyddogion yn chwilio’r tŷ am y person sydd ar goll heddiw.

Mae’r ddynes wedi cael ei henwi’n lleol fel Linda Merron a oedd yn ei 60au.

Mae Heddlu De Cymru a’r Gwasanaeth Tân yn cynnal ymchwiliad i achos y tân.