Dafydd Tudur
Mae teulu dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ger Y Felinheli yn oriau mân fore Sul wedi rhoi teyrnged iddo.

Toc wedi 3.20 fore Sul, cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gar ar ffordd osgoi Y Felinheli.

Bu farw Dafydd Tudur yn y fan a’r lle, a chafodd tri o bobol oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Gwynedd gyda mân anafiadau.

Roedd Dafydd Tudur yn 27 mlwydd oed ac yn byw yn Y Felinheli er ei fod yn wreiddiol o Rhandir, Morfa Nefyn.

Meddai ei deulu mewn datganiad ei fod yn fab i Gareth Tudor Morris Jones ac Esyllt Maelor a brawd hynaf Rhys a Marged Tudur, cymar Catrin Elen Morgan ac yn ffrind i lawer.

Astudiodd Dafydd Tudur y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac roedd yn gweithio fel cyfreithiwr i gwmni Tudur Owen Roberts Glynne & Co ym Mangor.

Dywedodd ei dad ar ran y teulu: “Mae hyn wedi bod yn sioc aruthrol i ni gyd. Bydd yna fwlch enfawr ar ôl Dafydd Tudur ond rydan ni hefyd yn diolch am y saith mlynedd ar hugain llawn hapusrwydd a gafwyd efo Dafydd.”