Mae canlyniadau cychwynnol etholiadau cynghorau Ffrainc yn dangos y ceidwadwyr ar y blaen, gan dynnu cefnogaeth oddi wrth y National Front, y blaid asgell dde eithafol.
Mae’r canlyniadau cychwynnol yn rhoi plaid yr UMP ar y blaen gyda 31% o’r bleidlais, o’i gymharu â 24.5% i blaid genedlaethol Marine Le Pen, y National Front.
Ar hyn o bryd, mae gan blaid Sosialaidd amhoblogaidd François Hollande, a’i gynghreiriaid, 19.7% o’r bleidlais.
Nid oedd disgwyl i’r Sosialwyr wneud yn dda ac roedden nhw’n gobeithio y byddai annog nifer fawr i bleidleisio yn helpu i danseilio poblogrwydd y National Front.
Fe wnaeth 51% o’r boblogaeth bleidleisio yn y rownd gyntaf, o’i gymharu â thua 45% yn yr un etholiad yn 2011.
Mae plaid Marine Le Pen, y National Front, wedi bod yn gwneud cynnydd cyson wrth iddi geisio ennill cefnogaeth ar lawr gwlad.
Pe bai’r polau’n gywir, fe allai roi hwb i’r National Front cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2017, pan fo disgwyl i Marine Le Pen sefyll fel ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth.
Daeth y blaid i amlygrwydd o dan arweiniad tad Le Pen, Jean-Marie pan gyhoeddodd faniffesto gwrth-fewnfudwyr, gwrth-Islamaidd a gwrth-Undeb Ewropeaidd.