Llys y Goron Merthyr Tudful
e allai dynes briod wynebu cyfnod yn y carchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl iddi gael rhyw gyda bachgen 15 oed.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Kelly Jane Richards, 36, o Aberpennar wedi cael rhyw gyda’r bachgen yn 2012.

Roedd Kelly Richards, wedi  gwadu’r cyhuddiad, ond plediodd yn euog yn gynharach y mis hwn i gyhuddiad o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn.

Clywodd y llys fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio â dwyn cyhuddiad arall yn ei  herbyn, ond y byddai’n aros ar gofnod.

Dywedodd y Barnwr Richard Twomlow fod y drosedd yn “fater difrifol” a’i fod yn ystyried pob opsiwn cyn ei dedfrydu.