Ashya King
Dywed rhieni’r bachgen pump oed, Ashya King, ei fod bellach wedi trechu canser ar ôl iddo gael triniaeth nad oedd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Yn ôl adroddiadau yn The Sun, mae ei rieni Naghmeh a Brett King yn dweud fod Ashya yn holliach ar ôl cael triniaeth proton therapy ym Mhrague.
Cafodd y ddau eu harestio yn yr haf y llynedd ar ôl iddyn nhw dynnu eu mab o ysbyty yn Southampton heb ganiatâd meddygol am eu bod yn anghytuno ynglŷn â’r driniaeth roedd Ashya yn ei gael am diwmor ar yr ymennydd.
Dywedodd ei rieni wrth y papur newydd bod ei wellhad yn profi eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad iawn.