Leo Abse, y cyn AS Llafur
Mae enw cyn AS Llafur wedi cael ei drosglwyddo i ymchwiliad yr heddlu i rwydwaith honedig o bedoffiliaid.

Dywedodd Eglwys Loegr ei fod wedi trosglwyddo’r honiad am Leo Abse i Ymgyrch Fernbridge – ymchwiliad yr Heddlu Metropolitan i rwydwaith honedig o bedoffiliaid yn San Steffan.

Dywedodd y Sunday Times fod yr heddlu’n cynnal ymchwiliad i Leo Abse, a fu farw yn 2008 yn 91 mlwydd oed, ar amheuaeth o gam-drin plant.

Meddai’r papur newydd fod dogfennau gan Heddlu De Cymru wedi datgelu fod llu heddlu arall yn ymchwilio i’r honiadau yn erbyn y gwleidydd a chyfreithiwr.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am y stori, ac nid yw Scotland Yard wedi cadarnhau neu wadu eu bod yn gysylltiedig â’r ymchwiliad i Leo Abse.

Bu Leo Abse yn Aelod Seneddol dros Bont-y-pŵl rhwng 1958 ac 1983, ac yna dros Dorfaen rhwng 1983 ac 1987.