Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys heddiw ar ôl i ddynes farw yn dilyn ymosodiad gan gi.

Mae’r dyn 23 oed wedi ei gyhuddo o ddau drosedd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Trelái yng Nghaerdydd nos Wener ar ôl i ddynes 64 oed gael anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad gan gi.

Er gwaethaf ymdrechion gan swyddogion a pharafeddygon i’w hachub, bu farw’r ddynes yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cafodd dyn 17 oed hefyd ei arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ac mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Valentine o Heddlu De Cymru: “Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ac rwy’n gwybod y bydd yn sioc i’r gymuned leol.”

Ychwanegodd bod teulu’r ddynes wedi’u tristau yn ofnadwy a’u bod yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol yr heddlu.