Mae Nigel Farage wedi dweud bod y protestwyr gwrth-UKIP oedd wedi ymgasglu y tu allan i’w dafarn leol heddiw yn ‘wehilion’.
Roedd Farage yn cael cinio gyda’i wraig a dau o’i blant yn y Queen’s Head yn Downe yn Swydd Gaint pan ddechreuodd y protestwyr ymgasglu.
Honnodd Farage fod nifer o bobol wedi gwthio’u ffordd i mewn i’r dafarn, ond mae’r protestwyr yn mynnu eu bod nhw wedi cynnal protest heddychlon.
Aeth nifer o bobol i mewn i’r George & Dragon cyn sylweddoli nad oedd Farage yno.
Symudodd y dorf tua’r Queen’s Head cyn hel y teulu Farage allan o’r dafarn a neidio ar ben eu car.
Dywedodd Farage yn ddiweddarach: “Gobeithio bod y ‘protestwyr’ hyn yn falch o’u hunain.
“Roedd fy mhlant wedi cael ofn oherwydd eu hymddygiad fel eu bod nhw wedi rhedeg i ffwrdd i guddio.
“Mae’r bobol hyn yn wehilion.”