Mae disgwyl i seneddwr Gweriniaethol talaith Texas, Ted Cruz fod y cyntaf i gyhoeddi’n swyddogol ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.
Fe allai’r cyhoeddiad gael ei wneud yfory, yn ôl strategydd anhysbys sy’n aelod o staff Cruz.
Ar ôl ymuno â’r Senedd yn 2013, gwnaeth Cruz ei enw fel gwleidydd di-flewyn-ar-dafod, ac mae’n gefnogwr brwd o ddeddfau gofal iechyd yr Arlywydd Barack Obama, yn ogystal â deddfau i ddiddymu’r Gwasanaeth Refeniw Mewnol a’r Adran Addysg.
Mae disgwyl i ragor o ymgeiswyr gyflwyno’u henwau yn ystod yr wythnosau i ddod.