Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond wedi dweud bod yr SNP yn barod i ystyried y posibilrwydd o gydweithio â’r Blaid Lafur pe baen nhw’n dod i rym yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
Mae’n debygol y byddai’r bartneriaeth yn ddibynnol ar barodrwydd y Blaid Lafur i gefnu ar Trident, ac y byddai’r ddwy blaid yn taro bargen ar bolisïau fesul un.
Ond mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r cynlluniau “brawychus”.
Dywedodd Alex Salmond wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Os os gennych chi’r cydbwysedd yn eich dwylo, yna mae gennych chi rym.”
Ychwanegodd Salmond y byddai’r cytundeb hefyd yn ddibynnol ar barodrwydd Llywodraeth Prydain i drafod y Gyllideb â’r SNP, ac fe allai hynny olygu cynnal trafodaethau am y posibilrwydd o sefydlu rheilffordd cyflym o Lundain i Gaeredin.
“Mae’r Blaid Lafur wedi wfftio clymblaid ond dydyn nhw ddim wedi wfftio cytundeb hyder a chyflenwi, lle mae gennych chi raglen benodol… Rwy’n credu ei bod yn debygol o fod yn drefniant pleidlais fesul un.”
Awgrymodd Salmond fod ail refferendwm yn ‘anochel’ ym maniffesto’r SNP ar gyfer etholiadau 2016.
“Dydy’r stori ddim ar ben.”