Mae’r gantores-gyfansoddwraig Jackie Trent wedi marw’n 74 oed.
Fel cyfansoddwraig, cyfansoddodd Trent ganeuon i Shirley Bassey a Dean Martin, ac mi gydweithiodd â Frank Sinatra.
Ond mae’n fwyaf adnabyddus am ei phartneriaeth gyda’i chyn-ŵr Tony Hatch – cydweithiodd y ddau ar y gerddoriaeth i’r opera sebon ‘Neighbours’, fu’n dathlu 30 mlynedd yr wythnos hon.
Cafodd ei geni’n Yvonne Burgess yn Swydd Stafford, a dechreuodd ei gyrfa ym myd cerddoriaeth ar ôl symud i Lundain yn y 1960au.
Roedd hi’n gyd-gyfansoddwraig dros 400 o ganeuon gyda Hatch, ac fe aeth eu cân ‘Where Are You Now My Love’ i rif un yn y siartau Prydeinig, gan ddisodli ‘Ticket to Ride’ gan y Beatles yn 1965.
Daeth eu priodas i ben yn 1995.
Roedd hi’n briod â Colin Gregory ers 2005, ac roedden nhw’n byw yn Sbaen.
Mae sioe gerdd wedi cael ei hysgrifennu am ei bywyd, ac roedd disgwyl iddi ymddangos yn y sioe.