Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi’u galw i 36 tân glaswellt bwriadol ers dydd Gwener.

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn diffodd cyfres o danau ar diroedd yn Rhisga, Pontypridd, Aberdâr, Cwm Rhondda a nifer o ardaloedd eraill.

Ar eu tudalen Twitter, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub fod y tanau’n “di-ystyru da byw”, a bod dros wyth hectar o dir wedi’i ddifetha.