Mae protestwyr yn erbyn UKIP wedi ymgasglu y tu allan i dafarn leol Nigel Farage yn Swydd Gaint heddiw.

Maen nhw’n protestio yn erbyn polisïau’r blaid cyn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.

Dywedodd trefnydd y brotest, Dan Glass fod hyd at 80 o bobol wedi torri i mewn i dafarn The George & Dragon yn Downe, ond dywedodd aelod o staff y dafarn fod oddeutu 20 o bobol y tu allan i’r adeilad yn cynnal protest heddychlon.

Dyweodd Dan Glass fod UKIP yn “dwyll”.

“Maen nhw’n esgus bod yn wrth-sefydliad ond ni allai hynny fod ymhellach oddi wrth y gwirionedd.

“Trwy roi’r bai yn anghywir ar fewnfudwyr am yr argyfwng economaidd, maen nhw wedi gadael y bancwyr â’u traed yn rhydd.

“Dyna pam fod cynifer o gymunedau amrywiol wedi mynd â’n diwylliannau i galon y lle maen nhw’n bodoli – tafarn leol Nigel Farage.

“Fyddwn ni ddim yn ildio i’w rhagfarn. Byddwn yn creu byd rydyn ni am fyw ynddo. Byd y tu hwnt i UKIP.”