Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio gan Heddlu Llundain yn dilyn ymosodiad ar synagog yn y gymuned Iddewig uniongred fwyaf yn Ewrop.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod ffrwgwd rhwng pump o bobol ar ôl iddyn nhw adael tŷ yn ardal Stamford Hill yng ngogledd Llundain neithiwr.

Ymosododd y grŵp ar Iddewon wrth iddyn nhw geisio cael mynediad i’r synagog, ac fe fu’n rhaid i oddeutu 10 o aelodau’r synagog amddiffyn eu hunain gyda chadeiriau.

Roedd y grŵp o bump yn cynnwys dwy ferch.

Mae’r digwyddiad yn cael ei drin fel un difrifol a gwrth-Iddewig.