Mae nifer aelodau’r SNP wedi codi i 100,000 ar drothwy’r etholiad cyffredinol.
Ymunodd miloedd o aelodau newydd â’r blaid yn dilyn y refferendwm annibyniaeth ar Fedi 18 y llynedd, ac mae’r ffigwr wedi parhau i godi’n raddol.
Daeth cadarnhad o’r newyddion gan y cyn-arweinydd Alex Salmond ar raglen Andrew Marr y BBC.
Fe fydd yr SNP yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn Glasgow yr wythnos nesaf gyda’u cefnogaeth cyn-etholiadol gryfaf erioed.
Mae disgwyl i hyd at 3,000 o bobol fynychu’r gynhadledd, sy’n gynnydd o 150% o’i gymharu â’r llynedd, ac mae’r SNP wedi dweud eu bod nhw’n cynnal yr ymgyrch fwyaf erioed ar droed yn eu hanes cyn Mai 7.
Mae polau’n awgrymu y gallai’r SNP gipio mwy na 50 o seddi allan o 59 yn San Steffan.
Dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch etholiadol yr SNP, Angus Robertson: “Mae gennym gefnogaeth gryfach nag erioed cyn etholiad cyffredinol a dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.
“Mae’r polau’n awgrymu’r hyn y gallen ni ei gyflawni – fe fydd gwaith caled ac ymrwymiad yn penderfynu beth rydyn ni’n ei gyflawni ac rydym yn canolbwyntio’n llwyr ar sicrhau llais cryf i’r Alban.”